Hafan

Enillwyr prif gystadleuaeth corau meibion Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010 

Arweinydd - Robert Nicholls

Llywydd Anrhydeddus - Alwyn Humphreys

Newyddion diweddaraf...  

 

Rydym yn brysur iawn yn paratoi ar gyfer Gŵyl Fawr Aberteifi ac Eisteddfod Genedlaethol y Fro ar hyn o bryd.

Mae ein taith dramor i Ganada ar y gorwel, a bwriedir recordio CD yn yr Hydref yn barod ar gyfer y daith honno.

Mae croeso cynnes i aelodau bob amser. Rydym yn ymarfer bob nos Sul am 7:30 yng Nghapel Y Tabernacl, Yr Ais, Caerdydd. Dewch i ganu a chymdeithasu mewn awyrgylch Gymreig a chyfeillgar!

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.